BRO CERNYW
Cyngor Cymuned
Community Council
Mehefin 2022 | ||
29 Dydd Mercher 19:30 |
Cyngor Cymuned Bro Cernyw Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus Canolfan Gwytherin |
www.brocernyw.cymru
Gwefan Cyngor Cymuned Bro Cernyw ar gyfer ardal pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin.
Gwahoddir cynnigion dyfynbrisiau am y gwaith canlynol ar ran
1. Ail-adeiladu pont droed fechan syml drost ffôs (tua 1.5 medr o hyd) Ebostiwch am ragor o fanylion, neu gysylltu ac Einir Williams ar 01745 860 190.
2. Gwneud asesiad diogelwch a iechyd coed ar ddwy goeden ywen hynafol o fewn mynwentydd Gwytherin a Llangernyw. Gwahoddir ceisiadau gan 'Arborists' profesiynol yn unig os gwlewch yn dda.
Dyddiad cau am ddyfynbrisiau - 19.04.2022
Mae pawb wedi bod yn brysur yn y tri pentref yn plannu blodau’r haf yn nhybiau y Cyngor Cymuned a rhai Conwy. Diolch i chi i gyd am helpu unwaith eto. Mae’n rhoi croeso i’r pentrefi i gyd.
Byddwn yn cael paned, cacen a raffl.
Rhybydd gan Heddlu Dyfed-Powys (cliciwch yma i weld y ddogfen (PDF)):
Mae Lotto Lwcus wedi ei sefydlu i helpu sefydliadau a chlybiau lleol i godi arian.
Os ydi'ch mudiad chi eisio fanteisio ar y cynllun yma, cliciwch yma i weld fwy o fanylion.
Neges pwysig ynglyn â toileau'r pentref ar dudalen Menter Bro Cernyw.
Coronavirus - Gostyngiad yn y gwasanaeth bws yn eich pentre' o dydd Llun - Gwelwch yma
Llongyfarchiadau i'r Cyngor Cymuned am dderbyn tystysgrif, canmoliaeth uchel, a siec am £25 gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 2018. Fe ddaru Ann Vaughan yrru cyflwyniad am bentref Llangernyw i'r YDCW cyn i'r beirniaid ddod oddi amgylch rhyw dro ym mis Mehefin neu Orffennaf i feirniadu. Mae cymaint o Gymdeithasau a gweithgareddau yn mynd ymlaen yn y pentref ac roedd adroddiad y beirniaid yn ganmoladwy iawn. Rhaid diolch i bawb am helpu i gyflawni hyn a chadw'r pentref yn daclus.
(Cliciwch ar y lincs ym i weld y tystysgrif a'r llythyr gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig)
Mae Menter Bro Cernyw wedi cymeryd drosodd y toiledau gan Gyngor Conwy.
Arwahan i'r holl ymwelwyr sy'n dod i'r pentref i weld y gwahanol atyniadau, mae llawer o grwpiau cerdded yn gwerthfawrogi bod y toiledau ar agor ac yn lan.
YN EISIAU MOR FUAN A PHOSIBL:
Mwy o fanylion gan:
Einir Williams
Y Bwthyn, Gwytherin,
Abergele LL22 8YE
01745 860190
GRADDFA CYFLOG: LC1 SCP 15
Cysylltwch a NYTH/NEST am grantiau a chyngor ar sut i gynhesu eich tai. www.nestwales.org.uk neu Rick.ward@nest.org.uk 07903 443 655
Gwefan sydd wedi ei gosod gan Gyngor Cymuned Llangernyw ar gyfer y gymuned i gyd yw hon. Yr ydym yn gobeithio bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer yr ardal o gwmpas Llangernyw, Gwytherin a Phandy Tudur.
Os oes rhywbeth y basech yn hoffi ei weld ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw awgrymiad ar sut i wella'r wefan cliciwch yma ar gyfer cysylltu ag Arfon Parry, chynhaliwr y wefan.
I gysylltu â'r cyngor gwelwch manylion y cyngor ar y dudalen hon.
Ydych chi'n aelod o glwb neu gymdeithas yn ardal Bro Cernyw? Fasech chi'n barod i roi gwybodaeth am eich cymdeithas ar y wefan?
Mae'r cyngor yn cynnig hyfforddiant sut i roi gwybodaeth ar y wefan i rywun sy'n cynrychioli cymdeithasau neu glybiau lleol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Arfon.