BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Cronfa Bro Cernyw

Ydych chi angen arian at brosiect neu at gynnal eich clwb / cymdeithas?

I wneud cais am arian o'r gronfa eleni, defnyddiwch y ffurflen isod i roi manylion eich cais.

Mae'r ffurflen ar gael mewn tri fformat:

Am unryw ymholiad i wneud a'r gronfa, cysylltwch â Elwen Owen

 

Dyddiad Cau: 20fed Ionawr 2024

CANLLAWIAU

1. Bydd y Cyngor cyfan yn trafod y ceisiadau.

2. Trafod unwaith y flwyddyn ond ystyrir rhai ceisiadau arbennig yn ystod y flwyddyn.

3. Y ceisiadau i mewn erbyn dyddiad a benodir gan y pwyllgor a swyddogion i drefnu cyfarfod wedyn ac i wneud penderfyniad o fewn y mis.

4. Rhaid i’r arian gael ei wario o fewn blwyddyn o’i dderbyn, heblaw mewn achosion arbennig a hynny drwy lythyr cais i’r Cyngor Cymuned.

5. Gofynnir am gopïau o anfonebau/tystiolaeth i’w hafnon i’r Cyngor yn dilyn gwario’r arian.

6. Yn y llythyr penderfyniad nodir “petai’r gymdeithas/clwb yn dod i ben bydd gan y Cyngor hawl ar yr offer a’r defnyddiau a brynwyd gyda’r grant”.

7. Bydd y grant yn cael ei hysbysebu yn Y Gadlas ac ar bosteri.

8. Bydd y gronfa’n cael ei galw’n Cronfa Bro Cernyw.

9. Telir cydnabyddiaeth i Weinyddydd y Gronfa bob blwyddyn am y gwaith gweinyddol.

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru