BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

www.brocernyw.cymru

 

Croeso i wefan Bro Cernyw

Gwefan Cyngor Cymuned Bro Cernyw ar gyfer ardal pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin.

 

Bydd sgip yn dod i Bandy Tudur ar Orffennaf 1af

PWYSIG - NI dderbynnir y canlynol:

Asbestos, Boteli nwy, Oergelloedd, Aerosolau o unrhyw fath, Drymiau olew - Llawn neu wag, Tuniau paent - llawn neu wag, Unrhyw fath o gemegion peryglus, Tiwbiau ‘Gripfill’ - Llawn neu wag, Bwrdd plastr, Tiwbiau fflworoleuol, Rhewgelloedd, Plaleiddiaid, Setiau teledu, Teiars na gwastraff clinigol yn cynnwys chwistrellau..

 

 

 

 

Datblygu Lleol

 

Mae hyd at £10,000 i ariannu prosiect Datblygu Lleol dan Arweiniad y Gymuned i gael trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfG).

 

Am fwy o fanylion gwelwch yma.

 

Plannu Coed yn y Fynwent

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn plannu coed yn y fynwent. Darllenwch fwy...

 

Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd

Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel. Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs.

Gwelwch yma am fwy o fanylion. Neu ewch i wefan yr Urdd

 

 
 
 

Cliciwch ar y posteri am fwy o wybodaeth.

 

 

 

Banc Bwyd

Os wyddoch chi am unrhyw un a fyddai’n elwa o gymorth banc bwyd yna os gwelwch yn dda e-bostiwch ein Cynghorydd Sir, Austin Roberts, ac fe all drefnu hyn.

Gwelwch y postar.

 

 

Canolfan Gynnes

Pob dydd Mawrth o 10:00 - 12:00

yn Eglwys St. Digain, Llangernyw

Dewch am baned a sgwrs - croeso i bawb

 

Bore dydd Mawrth, Mawrth 21 ain daeth 10 ynghyd i’r Hwb cynnes yn Eglwys St Digain o 10am -12.00pm Rydym yn cyfarfod bob bore Mawrth i gael paned a sgwrs a rhoi y byd yn ei le. Roedd Gwenda Cooper wedi paratoi cawl cennin blasus i ni gyda bara ffres. Diolch i’r Cynghorydd Sir, Mr Austin Roberts am ddod hefyd, mae pawb yn falch o’i weld i drafod materion yn yr ardal ac mae’n braf ei weld wyneb yn wyneb. Diolch i Gwenda am drefnu hyn bob bore

 

Addurno'r Pentrefi

Mae pawb wedi bod yn brysur yn y tri pentref yn plannu blodau’r haf yn nhybiau y Cyngor Cymuned a rhai Conwy. Diolch i chi i gyd am helpu unwaith eto. Mae’n rhoi croeso i’r pentrefi i gyd.

 
 

Menter Bro Cernyw

Mae Menter Bro Cernyw wedi cymeryd drosodd y toiledau gan Gyngor Conwy.

Arwahan i'r holl ymwelwyr sy'n dod i'r pentref i weld y gwahanol atyniadau, mae llawer o grwpiau cerdded yn gwerthfawrogi bod y toiledau ar agor ac yn lan.

Os am gyfranu gwelwch ein tudalen.

Twyll Ffôn

Rhybydd gan Heddlu Dyfed-Powys (cliciwch yma i weld y ddogfen (PDF)):

Lotto Lwcus

Mae Lotto Lwcus wedi ei sefydlu i helpu sefydliadau a chlybiau lleol i godi arian.

Os ydi'ch mudiad chi eisio fanteisio ar y cynllun yma, cliciwch yma i weld fwy o fanylion.

 

Neges pwysig ynglyn â toileau'r pentref ar dudalen Menter Bro Cernyw.

Arbed Ynni

Cysylltwch a NYTH/NEST am grantiau a chyngor ar sut i gynhesu eich tai. www.nestwales.org.uk neu Rick.ward@nest.org.uk  07903 443 655

 

Cynnal y Wefan

Gwefan sydd wedi ei gosod gan Gyngor Cymuned Llangernyw ar gyfer y gymuned i gyd yw hon. Yr ydym yn gobeithio bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer yr ardal o gwmpas Llangernyw, Gwytherin a Phandy Tudur.

Os oes rhywbeth y basech yn hoffi ei weld ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw awgrymiad ar sut i wella'r wefan cliciwch yma ar gyfer cysylltu ag Arfon Parry, chynhaliwr y wefan.

I gysylltu â'r cyngor gwelwch manylion y cyngor ar y dudalen hon.

Gwybodaeth Lleol

Ydych chi'n aelod o glwb neu gymdeithas yn ardal Bro Cernyw? Fasech chi'n barod i roi gwybodaeth am eich cymdeithas ar y wefan?

Mae'r cyngor yn cynnig hyfforddiant sut i roi gwybodaeth ar y wefan i rywun sy'n cynrychioli cymdeithasau neu glybiau lleol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Arfon.

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru