BRO CERNYW
Cyngor Cymuned
Community Council
Cyfarfod Nesaf:
Medi 2024 | ||
25 Dydd Mercher 19:30 |
Cyngor Cymuned Bro Cernyw Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus Canolfan Gymdeithasol Gwytherin |
Mae’r Cyngor Cymuned Llangernyw yn gweithredu fel rhan o rwydwaith o gynghorau bro o fewn Sir Gonwy. Mae’r Cyngor yn aelod o Un Llais Cymru sy’n cynghori a hyfforddi aelodau ar gyfer cynrychioli a gweithio ar ran yr etholwyr yn effeithlon. Hefyd rydym yn perthyn i Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned Conwy sy’n gyfle i drafod a datrys problemau sy’n codi rhwng y cyngor bwrdeistref sirol a’r cynghorau llai.
Mae 11 aelod ar Gyngor Cymuned Llangernyw – 6 yn cynrychioli Llangernyw, 2 yn cynrychioli Gwytherin a 3 yn cynrychioli Pandy Tudur. Mae’r cynghorydd sirol hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor. Mae pob cyfarfod o’r Cyngor Cymuned yn agored i’r cyhoedd.
Fel arfer, rydym yn cyfarfod unwaith y mis yn y canolfannau canlynol – Canolfan Bro Cernyw, Canolfan Pandy Tudur a Chanolfan Cymdeithasol Gwytherin.
Mae Cyngor Cymuned Llangernyw yn gyfrifol am dair mynwent gyhoeddus – Mynwent y Garnedd, Mynwent Gyhoeddus Llangernyw a Mynwent Gyhoeddus Gwytherin.
Ceir etholiad bob pedair blynedd ar gyfer y cyngor.
Gwelwch tudalen Datgan Cysylltiad am fwy o fanylion.
Mae groeso i'r cyhoedd ddod i cyfarfodydd y cyngor, ond tynir sylw at rhai o reolau sefydlog y cyngor.
Medi 2024 | ||
25 Dydd Mercher 19:30 |
Cyngor Cymuned Bro Cernyw Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus Canolfan Gymdeithasol Gwytherin |
|
Hydref 2024 | ||
30 Dydd Mercher 19:30 |
Cyngor Cymuned Bro Cernyw Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus Festri Pandy Tudur |
|
Tachwedd 2024 | ||
27 Dydd Mercher 19:30 |
Cyngor Cymuned Bro Cernyw Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus Canolfan Llangernyw (yn yr estyniad) |
|
Rhagfyr 2024 | ||
18 Dydd Mercher 19:30 |
Cyngor Cymuned Bro Cernyw Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus Canolfan Gymdeithasol Gwytherin |
Cysylltwch a clerc y cyngor wrth glicio yma.
Mae cofnodion y cyfarfodau cynharach y cyngor cymuned ar weld wrth glicio yma.
Mae holl ddogfennau eraill, yn cynnwys polisïau a dogfennau blynyddol y cyngor i weld ar dudalen Dogfennau'r Cyngor.