BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Menter Bro Cernyw

Fe wnaeth plant Cyngor Eco Ysgol Bro Cernyw a Miss Emma blannu bwlbiau Cennin Pedr a blodau pansy a viloas yn y border ger y Toiledau Cyhoeddus pnawn dydd Mawrth Tach 13eg ynghyd a Mrs Enid Davies a Mrs Ann Vaughan o bwyllgor Menter Bro Cernyw. Diolch yn fawr iawn i'r plant am helpu ac edrychwn ymlaen I'r Gwanwyn I weld ffrwyth eu llafur.

Ymsefydlwyd Menter Bro Cernyw Cyf ar gyfer rhedeg y toiledau cyhoeddus yn Llangernyw ar gyfer y gymuned.

Os hoffwch chi gyfranu, anfonwch ebost i ni am fwy o fanylion.

Y Toiledau

Menter Bro Cernyw Cyf wedi cymeryd drosodd y toiledau gan Gyngor Conwy. Mae yna 14 o wirfoddolwyr yn llnau'r toiledau erbyn hyn a rhaid diolch iddynt. Rydym yn derbyn rhoddion arianol tuag at redeg a chostau cadw'r toiledau ar agor ac mae llawer o grwpiau cerdded yn gwerthfawrogi eu bod ar agor ac yn lan arwahan i'r holl ymwelwyr sy'n dod i'r pentref I weld y gwahanol atyniadau.

 

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru