Cronfa Bro Cernyw
Ydych chi angen arian at brosiect neu at gynnal eich clwb / cymdeithas?
I wneud cais am arian o'r gronfa eleni, defnyddiwch y ffurflen isod i roi manylion eich cais.
Mae'r ffurflen ar gael mewn tri fformat:
Am unryw ymholiad i wneud a'r gronfa, cysylltwch â clerc y cyngor
CANLLAWIAU
- Bydd y Cyngor cyfan yn trafod y ceisiadau.
- Trafod pryd y derbynir ceisiadau.
- Y ceisiadau i gael y trafod yn y pwyllgor nesaf yn dilyn derbyn y cais.
- Rhaid i’r arian gael ei wario o fewn blwyddyn o’i dderbyn, heblaw mewn achosion arbennig a hynny drwy lythyr cais i’r Cyngor Cymuned.
- Gofynnir am gopïau o anfonebau/tystiolaeth i’w hanfon i’r Cyngor yn dilyn gwario’r arian.
- Yn y llythyr penderfyniad nodir “petai’r gymdeithas/clwb yn dod i ben bydd gan y Cyngor hawl ar yr offer a’r defnyddiau a brynwyd gyda’r grant”.
- Bydd y grant yn cael ei hysbysebu yn Y Gadlas ac ar bosteri.
- Bydd y gronfa’n cael ei galw’n ‘Cronfa Bro Cernyw.’
- Telir cydnabyddiaeth i Weinyddydd y Gronfa bob blwyddyn am y gwaith gweinyddol.