BRO CERNYW
Cyngor Cymuned
Community Council
www.brocernyw.cymru
Gwefan Cyngor Cymuned Bro Cernyw ar gyfer ardal pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin.
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn plannu coed yn y fynwent. Darllenwch fwy...
Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel. Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs.
Gwelwch yma am fwy o fanylion. Neu ewch i wefan yr Urdd
Gwahoddir ceisiadau i
yn nwy fynwent Llangernyw a dwy fynwent Gwytherin.
Dyddiad cau - Mawrth 25ain 2024
PWYSIG - Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn chwilio am aelodau newydd o'r pwyllgor ac yn anffodus os nad oes gwirfoddolwyr yn dod ymlaen yna bydd yn rhaid iddo gau. Allwch chi ddanfon unrhyw enw posib i cllr.austin.roberts@conwy.gov.uk os gwelwch yn dda.
Cliciwch ar y posteri am fwy o wybodaeth.
Os wyddoch chi am unrhyw un a fyddai’n elwa o gymorth banc bwyd yna os gwelwch yn dda e-bostiwch ein Cynghorydd Sir, Austin Roberts, ac fe all drefnu hyn.
yn Eglwys St. Digain, Llangernyw
Dewch am baned a sgwrs - croeso i bawb
Bore dydd Mawrth, Mawrth 21 ain daeth 10 ynghyd i’r Hwb cynnes yn Eglwys St Digain o 10am -12.00pm Rydym yn cyfarfod bob bore Mawrth i gael paned a sgwrs a rhoi y byd yn ei le. Roedd Gwenda Cooper wedi paratoi cawl cennin blasus i ni gyda bara ffres. Diolch i’r Cynghorydd Sir, Mr Austin Roberts am ddod hefyd, mae pawb yn falch o’i weld i drafod materion yn yr ardal ac mae’n braf ei weld wyneb yn wyneb. Diolch i Gwenda am drefnu hyn bob bore
Mae pawb wedi bod yn brysur yn y tri pentref yn plannu blodau’r haf yn nhybiau y Cyngor Cymuned a rhai Conwy. Diolch i chi i gyd am helpu unwaith eto. Mae’n rhoi croeso i’r pentrefi i gyd.
Mae Menter Bro Cernyw wedi cymeryd drosodd y toiledau gan Gyngor Conwy.
Arwahan i'r holl ymwelwyr sy'n dod i'r pentref i weld y gwahanol atyniadau, mae llawer o grwpiau cerdded yn gwerthfawrogi bod y toiledau ar agor ac yn lan.Rhybydd gan Heddlu Dyfed-Powys (cliciwch yma i weld y ddogfen (PDF)):
Mae Lotto Lwcus wedi ei sefydlu i helpu sefydliadau a chlybiau lleol i godi arian.
Os ydi'ch mudiad chi eisio fanteisio ar y cynllun yma, cliciwch yma i weld fwy o fanylion.
Neges pwysig ynglyn â toileau'r pentref ar dudalen Menter Bro Cernyw.
Cysylltwch a NYTH/NEST am grantiau a chyngor ar sut i gynhesu eich tai. www.nestwales.org.uk neu Rick.ward@nest.org.uk 07903 443 655
Gwefan sydd wedi ei gosod gan Gyngor Cymuned Llangernyw ar gyfer y gymuned i gyd yw hon. Yr ydym yn gobeithio bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer yr ardal o gwmpas Llangernyw, Gwytherin a Phandy Tudur.
Os oes rhywbeth y basech yn hoffi ei weld ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw awgrymiad ar sut i wella'r wefan cliciwch yma ar gyfer cysylltu ag Arfon Parry, chynhaliwr y wefan.
I gysylltu â'r cyngor gwelwch manylion y cyngor ar y dudalen hon.
Ydych chi'n aelod o glwb neu gymdeithas yn ardal Bro Cernyw? Fasech chi'n barod i roi gwybodaeth am eich cymdeithas ar y wefan?
Mae'r cyngor yn cynnig hyfforddiant sut i roi gwybodaeth ar y wefan i rywun sy'n cynrychioli cymdeithasau neu glybiau lleol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Arfon.