BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

HYSBYSIAD 0 BENNU DYDDIAD AR GYFER ARFER HAWLIAU ETHOLWYR

Cyngor Cymuned Llangernyw

Y flwyddyn sy'n diweddu 31 Mawrth 2019

 

  1. Dyddiad y cyhoeddiad 21ain Awst 2019

  2. Bob blwyddyn, mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copiau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati yn ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Am y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2019, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol drwy wneud cais:

    Diane Roberts
    Tan-y-Gorwel
    Llangernyw
    01745 860423

    rhwng yr oriau 10:00 y.b. a 19:00 y.h. ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener
    gan ddechrau ar 9 Medi 2019
    a gorffen ar 4 Hydref 2019

  3. 7 Hydref 2019 hyd nes bod yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:

  • yr hawl i gwestiynu'r Archwilydd Cyffredinol ynglyn a'r cyfrifon. Gellir cysylltu a'r Archwilydd Cyffredinol drwy BDO LLP, Arcadia House, Maritime Walk, Ocean Village, Southampton S014 3TL; ac

  • yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwrthwynebu'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf drwy BDO LLP, Arcadia House, Maritime Walk, Ocean Village, Southampton S014 3TL. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i'r cyngor.

  1. Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru