BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

Canolfan Gymunedol Bro Cernyw

Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn llecyn hwylus yng nghanol y pentref ac mae’r Ysgol yn ei defnyddio yn ddyddiol pan mae’n dymor ysgol.  Mae digon o le i barcio o’i hamgylch.  Gellir hurio’r Neuadd a’r Estyniad (sef Ystafell Gymunedol) ar ôl 3.15 pm pan mae yn dymor ysgol, neu drwy’r dydd yn ystod y gwyliau.  Hefyd mae Ystafell Snwcer i’r gymuned lle mae timau lleol yn ymarfer ar gyfer cystadlaethau yn ystod misoedd y gaeaf.

Cyfleusterau eraill yw Ystafelloedd Newid ar gyfer unrhyw glwb neu gymdeithas sydd â diddordeb mewn unrhyw fath o chwaraeon.

Cadeirydd presennol y Pwyllgor Rheoli yw Clwyd Roberts, Trysorydd – Olwen Evans (860675) a’r Ysgrifennydd a Warden i drefnu hurio ac i gael mwy o wybodaeth – Gwenda Vaughan (01745 421465).

Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau drwy’r flwyddyn e.e. Clwb Chwaraeon, Cynllun Chwarae yn ystod gwyliau ar gyfer y plant, dosbarthiadau Pilates, Cwiltio, Arlunio, Garddio, Merched y Wawr, Aelwyd a Chlwb yr Urdd, Bowlio, Cyngherddau, Eisteddfodau, Partion te parti neu Wledd i unrhyw achlysur.

Dyma restr o gynrychiolwyr y gwahanol gymdeithasau sydd ar Bwyllor Rheoli Canolfan Bro Cernyw:

Côr Genod y Gân – Marian Williams, Iona E Williams

Merched y Wawr – Sioned Harris, Olwen Evans

Clwb Garddio – Enid Davies, Eifion Jones

Clwb Snwcer – Wil Edwards, Rob Everiss

Clwb yr Urdd – Ceri Llwyd, Alwyn Hughes, Lucie Owen

Llywodraethwyr yr Ysgol – Eirian Morris

Clwb Pel-droed – Dafydd Jones, Leah Edwards

Clwb Bowlio – Wil Davies, Rob Everiss

Cyngor Cymuned – Gerwyn Davies, Ian W Griffiths

Sioe Arddio – Llinos Roberts, Wil Evans

Y Gymdeithas Undebol – Gwynfor Davies, Cyng Dilwyn O Roberts

Eglwys San Digain – Gwenda Cooper

Aelwyd yr Urdd – Guto Owen, Catrin Griffiths

Cyfetholwyd – Sioned Green, John Hughes, Emrys Owen, D Gwynfor Davies, Mary Jones, Marian Williams

 

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru