BRO CERNYW

Cyngor Cymuned

Community Council

www.brocernyw.cymru

 

Croeso i wefan Bro Cernyw

Gwefan Cyngor Cymuned Bro Cernyw ar gyfer ardal pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin.

 

Plannu Coed yn y Fynwent

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn plannu coed yn y fynwent. Darllenwch fwy...

 

Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd

Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel. Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs.

Gwelwch yma am fwy o fanylion. Neu ewch i wefan yr Urdd

 

Gwahoddir ceisiadau i

dorri gwair

yn nwy fynwent Llangernyw a dwy fynwent Gwytherin.

Dyddiad cau - Mawrth 25ain 2024

Cysyllter â Catrin Griffiths (Clerc)

Postar

 

Opsiynau i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru

– dywedwch wrthym beth yw eich barn chi

Mwy o fanylion

 
 
 

PWYSIG - Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn chwilio am aelodau newydd o'r pwyllgor ac yn anffodus os nad oes gwirfoddolwyr yn dod ymlaen yna bydd yn rhaid iddo gau. Allwch chi ddanfon unrhyw enw posib i cllr.austin.roberts@conwy.gov.uk os gwelwch yn dda.

 

Cliciwch ar y posteri am fwy o wybodaeth.

 

 

 

Banc Bwyd

Os wyddoch chi am unrhyw un a fyddai’n elwa o gymorth banc bwyd yna os gwelwch yn dda e-bostiwch ein Cynghorydd Sir, Austin Roberts, ac fe all drefnu hyn.

Gwelwch y postar.

 

 

Canolfan Gynnes

Pob dydd Mawrth o 10:00 - 12:00

yn Eglwys St. Digain, Llangernyw

Dewch am baned a sgwrs - croeso i bawb

 

Bore dydd Mawrth, Mawrth 21 ain daeth 10 ynghyd i’r Hwb cynnes yn Eglwys St Digain o 10am -12.00pm Rydym yn cyfarfod bob bore Mawrth i gael paned a sgwrs a rhoi y byd yn ei le. Roedd Gwenda Cooper wedi paratoi cawl cennin blasus i ni gyda bara ffres. Diolch i’r Cynghorydd Sir, Mr Austin Roberts am ddod hefyd, mae pawb yn falch o’i weld i drafod materion yn yr ardal ac mae’n braf ei weld wyneb yn wyneb. Diolch i Gwenda am drefnu hyn bob bore

 

Addurno'r Pentrefi

Mae pawb wedi bod yn brysur yn y tri pentref yn plannu blodau’r haf yn nhybiau y Cyngor Cymuned a rhai Conwy. Diolch i chi i gyd am helpu unwaith eto. Mae’n rhoi croeso i’r pentrefi i gyd.

 
 

Menter Bro Cernyw

Mae Menter Bro Cernyw wedi cymeryd drosodd y toiledau gan Gyngor Conwy.

Arwahan i'r holl ymwelwyr sy'n dod i'r pentref i weld y gwahanol atyniadau, mae llawer o grwpiau cerdded yn gwerthfawrogi bod y toiledau ar agor ac yn lan.

Os am gyfranu gwelwch ein tudalen.

Twyll Ffôn

Rhybydd gan Heddlu Dyfed-Powys (cliciwch yma i weld y ddogfen (PDF)):

Lotto Lwcus

Mae Lotto Lwcus wedi ei sefydlu i helpu sefydliadau a chlybiau lleol i godi arian.

Os ydi'ch mudiad chi eisio fanteisio ar y cynllun yma, cliciwch yma i weld fwy o fanylion.

 

Neges pwysig ynglyn â toileau'r pentref ar dudalen Menter Bro Cernyw.

Arbed Ynni

Cysylltwch a NYTH/NEST am grantiau a chyngor ar sut i gynhesu eich tai. www.nestwales.org.uk neu Rick.ward@nest.org.uk  07903 443 655

 

Cynnal y Wefan

Gwefan sydd wedi ei gosod gan Gyngor Cymuned Llangernyw ar gyfer y gymuned i gyd yw hon. Yr ydym yn gobeithio bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer yr ardal o gwmpas Llangernyw, Gwytherin a Phandy Tudur.

Os oes rhywbeth y basech yn hoffi ei weld ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw awgrymiad ar sut i wella'r wefan cliciwch yma ar gyfer cysylltu ag Arfon Parry, chynhaliwr y wefan.

I gysylltu â'r cyngor gwelwch manylion y cyngor ar y dudalen hon.

Gwybodaeth Lleol

Ydych chi'n aelod o glwb neu gymdeithas yn ardal Bro Cernyw? Fasech chi'n barod i roi gwybodaeth am eich cymdeithas ar y wefan?

Mae'r cyngor yn cynnig hyfforddiant sut i roi gwybodaeth ar y wefan i rywun sy'n cynrychioli cymdeithasau neu glybiau lleol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Arfon.

Mae'r prosiect yma wedi ei gyllido trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig gydag arian yr UE a Llywodraeth Cymru